• Teithio a Pharcio
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
  • Digwyddiadau
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
  • Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

Swansea City Centre logo

The Waterfront City Centre

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Teithio a Pharcio
    • Gorsaf Bysus
    • Gorsaf Drenau
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
    • Siopa
      • Stryd Fawr
      • Ardal Siopau Annibynnol
      • Stryd Rhydychen
      • Marchnad Abertawe (allanol)
      • The Quadrant (allanol)
    • Pethau i wneud
      • Atyniadau
      • Amgueddfeydd/Orielau
        • Celf Gyhoeddus
      • Llwybrau
      • Bwyta ac Yfed
        • Caffis
        • Bywyd Nos
          • Faner Borffor
        • Tafarndai
        • Bwyta allan
    • Lleoedd i Aros
  • Digwyddiadau
    • Marchnad Nadolig Abertawe
      • Caban Y Carolwyr
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
    • Gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas
    • City Centre Rangers
    • Map canol y ddinas
    • Ffeithiau a Ffigurau
    • Wi-Fi a gwefru ffonau am ddim
    • Man storio bagiau (allanol)
    • Eiddo Coll
    • Astudio
    • Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
    • Croseo Bae Abertawe (allanol)
  • Cymraeg
    • English
You are here: Home / Rydym yma i’ch helpu / Gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas

Gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas

Datblygwyd gwasanaeth Rheoli Canol Dinas Abertawe yn 2000 i gydlynu’r gwaith o reoli a datblygu canol y ddinas.

Mae’r gwasanaeth, sy’n rhan o’r adran Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas o fewn Cyngor Abertawe, yn gweithio’n agos gyda sawl asiantaeth yng nghanol y ddinas gan gynnwys Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe a’r gymuned fusnes leol, y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru a’r heddlu.

Gweledigaeth ac Amcanion

Ein nod yw helpu i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer canol y ddinas, sef ei wneud yn gyrchfan arbennig a lle bywiog a deinamig i siopa, byw, gweithio ac ymweld ag ef.

Mae ein hamcanion allweddol a’n blaenoriaethau wedi’u crynhoi fel a ganlyn:

Amcan 1 – Mae’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas yn rheoli nifer o wasanaethau rheng flaen yng nghanol y ddinas gan gynnwys Marchnad Dan Do Abertawe, Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe a Cheidwaid Canol y Ddinas. Ffocws y gwasanaethau hyn yw gwella profiad cyffredinol y rhai sy’n ymweld â chanol y ddinas ar gyfer siopa, hamdden a busnes.

Amcan 2 – Mae’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas yn cynnal ac yn cydlynu gweithgareddau amrywiol yng nghanol y ddinas. Ymhlith pethau eraill, mae’r rhain yn cynnwys gosodiadau hyrwyddol a digwyddiadau, ffilmio, perfformio ar y stryd, marchnadoedd arbenigol, digwyddiadau arbennig a masnachu ar y stryd.

Enillodd canol y ddinas statws y Faner Borffor yn 2014 am y ffordd y mae’n rheoli ei economi nos. Roedd hwn yn gyflawniad gwych ac mae’n adlewyrchu gwaith y gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas a’r asiantaethau amrywiol a oedd yn rhan o’r broses ymgeisio ac asesu drwyadl.

Amcan 3 – Mae’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas yn hwyluso digwyddiadau a gwaith marchnata i godi proffil canol y ddinas ac annog mwy o bobl i siopa ac ymweld â’r ddinas.

Mae digwyddiadau rheolaidd yng nghalendr canol y ddinas yn cynnwys Marchnad y Nadolig a Marchnadoedd Cyfandirol, Troi Goleuadau’r Nadolig Ymlaen a Gorymdaith y Nadolig, Gwyliau Dydd Gŵyl Dewi, digwyddiadau’r Faner Borffor a Chalan Gaeaf.

I gael rhagor o wybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau, gallwch ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram!

Os hoffech chi holi am ddefnyddio canol y ddinas, cysylltwch â’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas drwy ffonio 01792 633090 yn ystod oriau swyddfa neu anfonwch e-bost atom.

This post is also available in: English

Primary Sidebar

Map canol y ddinas

  • Hafan
  • Preifatrwydd a Cwcis

Return to top of page

Copyright © 2023 · Swansea City Centre · Cookie Policy

  • English
  • Cymraeg