
Mae canol dinas Abertawe yn gartref i ddigonedd o gaffis, bariau, bwytai, bistros a gwerthwyr bwyd stryd gwych. Mae rhywbeth at ddant pawb.
Mae canol y ddinas yn cynnig digon o gyfleoedd i brofi bwyd Cymreig ar ei orau. Mae llawer o’r bwytai wedi cymhwyso ar gyfer gwobr Gwir Flas Cymru i gydnabod eu hymrwymiad i fwyd Cymreig a’u hymrwymiad i ddefnyddio cynnyrch Cymreig ffres.

Am rywbeth traddodiadol Gymreig, rhowch gynnig ar y pryd arbennig lleol o fwyd môr – bara lawr – math o biwrî gwymon sydd ar gael ym marchnad Abertawe, rhywle sy’n cyflym ddod yn hafan bwyd. Ynghyd â bwyd Cymreig traddodiadol, mae’r farchnad yn cynnig bwyd o bedwar ban byd a hefyd yn cyflenwi dewis helaeth o gynnyrch lleol ffres i lawer o fwytai’r ddinas, sy’n amrywio o fwyd môr a ddaliwyd yn lleol, gan gynnwys sewiniaid, cimychiaid a chocos i gig oen Cymru, cawsiau a llysiau organig.
Mae’r rhan fwyaf o fariau a bwytai’r ddinas ar Stryd y Gwynt, er bod y ddinas yn frith o drysorau cudd.

This post is also available in: English