
A hithau’n gyrchfan siopa wych, ystyrir mai Abertawe yw’r ganolfan fanwerthu ranbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru.
Mae dewis eang o ffefrynnau’r stryd fawr i’w gael yn ogystal â bwtigau annibynnol a siopau arbenigol. Os bydd y tywydd yn troi, gallwch chi alw heibio Canolfan Siopa’r Cwadrant, ymweld â’r stondinau ym Marchnad Abertawe gerllaw neu fynd am dro drwy’r arcedau traddodiadol!
Byddwch hefyd yn dod o hyd i amrywiaeth o fanciau a chymdeithasau adeiladu sydd mewn mannau cyfleus yn y ddinas ar gyfer eich holl anghenion ariannol. Mae’r rhain yn cynnwys; Halifax, Lloyds TSB, Natwest, Barclays, Santander, HSBC a Yorkshire Building Society.
Stryd Fawr – Heddiw, mae’r ardal rhwng castell Abertawe a’r orsaf drenau, sef prif ardal siopa canol y ddinas ar un adeg, yn llawn manwerthwyr annibynnol, bariau ffasiynol, bwytai, caffis, siopau bwyd cyflym ac archfarchnadoedd bwyd rhyngwladol.

Masnachwyr Annibynnol – Os ydych yn chwilio am rywbeth gwahanol, mae amrywiaeth eang o fasnachwyr annibynnol yn y ddinas sy’n cynnig ystod eang o gynnyrch a gwasanaethau arbenigol. Yr ardal Annibynnol yw’r enw a roddir ar yr ardal sy’n cynnwys pen isaf Stryd Rhydychen, yr arcedau, Stryd Plymouth a Stryd Nelson, lle ceir llawer o siopau annibynnol. Mae amrywiaeth o fusnesau bach i’w chael ar y Stryd Fawr, ar Stryd y Castell, ac yn Arcêd y Castell.

Stryd Rhydychen – Mae’r stryd brysur hon yng nghanol y ddinas ac yn denu dros 50,000 o ymwelwyr bob wythnos. Mae Stryd Rhydychen o fewn y parth cerddwyr, sy’n creu amgylchedd delfrydol lle gall siopwyr edrych o gwmpas yn hamddenol, cyfarfod a chyfarch a mwynhau’r amgylchoedd a’r digwyddiadau. Mae brandiau enwog megis Next, Topshop, River Island, H&M, M&S a mwy i’w cael yn yr ardal hon.

Y Cwadrant – Gellir dod o hyd i’r brandiau mwyaf a’r tueddiadau diweddaraf yn y ganolfan siopa hon! Mae rhywbeth i bawb yn y Cwadrant, gyda’i dewis gwych o siopau, ynghyd â Swyddfa Bost gyfleus, siopau coffi a danteithion melys o Krispy Kreme! Mae maes parcio aml-lawr cyfleus gerllaw, ac mae’r orsaf fysus yn agos. Ni allai fod yn haws ymweld â’r ganolfan siopa wych hon!

Marchnad Abertawe – O dan y to gwydr mawr mae dros 100 o stondinau annibynnol yn barod i chi eu harchwilio! Marchnad Abertawe yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru ac mae’n enwog yn rhyngwladol am ei chynnyrch lleol, bara lawr a chocos, yn ogystal â dewis eang o gynhwysion ffres, anrhegion, cardiau, blodau, melysion, ffasiwn, harddwch a llawer mwy! Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (ac ar ddydd Sul yn y cyfnod cyn y Nadolig). Bydd yr hyn sydd ar gael ym Marchnad Abertawe yn eich syfrdanu!

Parc Tawe – Mae’r cyfadeilad siopa ac adloniant hwn yn gartref i amrywiaeth o frandiau mawr a chaffis, yn ogystal â Denny’s Diner cyntaf y DU a sinema, ale fowlio a’r goedwig law dan do Plantasia. Mae digonedd o le i barcio a rhodfa dan do sy’n cysylltu â chanol y ddinas, sy’n golygu bod Parc Tawe’n ganolfan adloniant ardderchog ar gyfer y teulu cyfan.

* Edrychwch i weld pryd y bydd siopau penodol ar agor *
This post is also available in: English