29 Tachwedd – 22 Rhagfyr 2025, Stryd Rhydychen
Mae Marchnad Nadolig Abertawe’n dychwelyd! Bydd y cabanau pren cain ar y strydoedd unwaith eto, gan ddod â wynebau cyfarwydd ynghyd a chyflwyno masnachwyr newydd cyffrous i ganol y ddinas. Dewch i siopa am roddion unigryw a danteithion Nadoligaidd, cynhesu yn y Bar Alpaidd clyd, a mwynhau adloniant byw yng Nghaban y Carolwyr, y mae Costa Coffee yn falch o’i noddi.
Newydd ar gyfer 2025 – Y Babell Lawen, sy’n llawn stondinau bwyd, diodydd a chrefftau o safon i’w harchwilio o ddydd Gwener 5 i ddydd Sul 7 Rhagfyr ac eto o ddydd Gwener 12 i ddydd Sul 14 Rhagfyr.
Bydd Marchnad y Nadolig hefyd yn barod am ddau ddigwyddiad Nadoligaidd nodedig, Gŵyl Tân ac Iâ Abertawe ac Uchelwydd a Marchnadoedd.
Dewch draw i archwilio’r stondinau a mwynhau hwyl yr ŵyl!
Dydd Llun – Dydd Sadwrn 9:30am-5pm
Dydd Sul 10:30am – 4:30pm
This post is also available in: English



