
Datblygwyd gwasanaeth Rheoli Canol Dinas Abertawe yn 2000 i gydlynu’r gwaith o reoli a datblygu canol y ddinas.
Mae’r gwasanaeth, sy’n rhan o’r adran Cynllunio ac Adfywio’r Ddinas o fewn Cyngor Abertawe, yn gweithio’n agos gyda sawl asiantaeth yng nghanol y ddinas gan gynnwys Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe a’r gymuned fusnes leol, y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru a’r heddlu.

Gweledigaeth ac Amcanion
Ein nod yw helpu i gyflawni’r weledigaeth ar gyfer canol y ddinas, sef ei wneud yn gyrchfan arbennig a lle bywiog a deinamig i siopa, byw, gweithio ac ymweld ag ef.
Mae ein hamcanion allweddol a’n blaenoriaethau wedi’u crynhoi fel a ganlyn:
Amcan 1 – Mae’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas yn rheoli nifer o wasanaethau rheng flaen yng nghanol y ddinas gan gynnwys Marchnad Dan Do Abertawe, Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe a Cheidwaid Canol y Ddinas. Ffocws y gwasanaethau hyn yw gwella profiad cyffredinol y rhai sy’n ymweld â chanol y ddinas ar gyfer siopa, hamdden a busnes.
Amcan 2 – Mae’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas yn cynnal ac yn cydlynu gweithgareddau amrywiol yng nghanol y ddinas. Ymhlith pethau eraill, mae’r rhain yn cynnwys gosodiadau hyrwyddol a digwyddiadau, ffilmio, perfformio ar y stryd, marchnadoedd arbenigol, digwyddiadau arbennig a masnachu ar y stryd.
Enillodd canol y ddinas statws y Faner Borffor yn 2014 am y ffordd y mae’n rheoli ei economi nos. Roedd hwn yn gyflawniad gwych ac mae’n adlewyrchu gwaith y gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas a’r asiantaethau amrywiol a oedd yn rhan o’r broses ymgeisio ac asesu drwyadl.
Amcan 3 – Mae’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas yn hwyluso digwyddiadau a gwaith marchnata i godi proffil canol y ddinas ac annog mwy o bobl i siopa ac ymweld â’r ddinas.

Mae digwyddiadau rheolaidd yng nghalendr canol y ddinas yn cynnwys Marchnad y Nadolig a Marchnadoedd Cyfandirol, Troi Goleuadau’r Nadolig Ymlaen a Gorymdaith y Nadolig, Gwyliau Dydd Gŵyl Dewi, digwyddiadau’r Faner Borffor a Chalan Gaeaf.
I gael rhagor o wybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf am y digwyddiadau, gallwch ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram!
Os hoffech chi holi am ddefnyddio canol y ddinas, cysylltwch â’r gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas drwy ffonio 01792 633090 yn ystod oriau swyddfa neu anfonwch e-bost atom.
This post is also available in: English