Mae digonedd o hwyl yr ŵyl ar gael yn Abertawe’r Nadolig hwn! Cerddwch drwy’r ddinas a sylwch ar y goleuadau disglair, y ddwy goeden Nadolig, a holl hud y Nadolig.
🎁Marchnad Nadolig Abertawe – dewch i Farchnad Nadolig Abertawe i ddarganfod anrhegion unigryw a danteithion blasus o amrywiaeth o stondinau ar Stryd Rhydychen!
🎶 Caban y Carolwr – ni fyddai’n Nadolig heb garol neu ddwy! Cymerwch gip ar y rhestr o berfformiadau a mwynhewch alawon y Nadolig!
🎡 Waterfront Winterland – mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, lle ceir reidiau cyffrous a digonedd o hwyl yr ŵyl, o fewn tafliad carreg o ganol y ddinas.
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni yn Abertawe!
Diolch yn fawr i Kartay, noddwr y goeden Nadolig yn Sgwâr y Castell, am eu hymroddiad i lywio dyfodol disglair Abertawe!
This post is also available in: English