Mewn prif leoliad yng nghanol y ddinas, Stryd Rhydychen Isaf yw un o’r prif ardaloedd siopa yn Abertawe, gan ddenu dros 50,000 o ymwelwyr yr wythnos.
Mae’n cyflwyno cyfuniad gwych o enwau’r stryd fawr, gan gynnwys:
Dillad, Esgidiau ac Ategolion
Miss Selfridge, BHS, Marks & Spencer, H&M, Next, Topshop, River Island, Sports Direct, Jane Norman, Burton, Jack Jones, CEX, Office, Mountain Warehouse, Monsoon a Peacocks.
Siopau ffonau symudol
Carphone Warehouse, EE, O2, Phones 4 U.
Siopau gemwaith
Crouch, H Samuel, a Clive Ranger
Yn ogystal â’r manwerthwyr hyn, mae siop lyfrau Waterstones, a Starbucks Coffee, yn ogystal ag amrywiaeth o siopau ar y stryd.
Mae’n boblogaidd ar gyfer adloniant stryd, clera a hyrwyddiadau arbennig trwy’r flwyddyn. Fel llwybr mynediad allweddol i Farchnad Abertawe, Gorsaf Fysus y Cwadrant a’r arcedau, mae hefyd yn rhoi llwybr uniongyrchol i Sgwâr y Castell, sy’n boblogaidd gyda phreswylwyr ac ymwelwyr amser cinio ac yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau awyr agored.
Ymhellach ar hyd Stryd Rhydychen Isaf , byddwch hefyd yn gweld detholiad gwych o siopau annibynnol llai sy’n cynnig rhoddion a chynnyrch unigryw. I gael cip ar yr amrywiaeth o siopau, cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
I gael gwybod sut mae cyrraedd Stryd Rhydychen, cliciwch ar Fap Poced Canol y Ddinas
Os hoffech i’ch busnes gael ei restru yma gyda dolen i’ch gwefan, e-bostiwch eich manylion i business@swansea.gov.uk
This post is also available in: English