![](http://www.swanseacitycentre.com/wp-content/uploads/2019/07/Swansea-City-Centre110619_38.jpg)
Dewch o hyd i fwy o wybodaeth am ganol y ddinas trwy ddilyn y llwybrau cyffrous ar thema sy’n mynd â chi heibio amrywiaeth o olygfeydd ac atyniadau, rhai na wyddech eu bod yn bodoli!
Tyst y Ddinas – Prosiect yn seiliedig ar ymchwil sy’n defnyddio marcwyr palmant i olrhain canol y ddinas a dilyn stori William Cragg, dyn lleol a gafodd ei grogi yn Abertawe yn yr oesoedd canol ac a atgyfodwyd yn wyrthiol! Mae’r daith yn cynnwys straeon am Abertawe yn yr oesoedd canol a’r ysbrydion a allai fod yno o hyd!
Llwybr Castell Abertawe i Deuluoedd – Dewch yn dditectif hanesyddol a datryswch ddirgelion y castell hwn a fu’n destun brwydro ffyrnig! Gellir cael gwybodaeth am y llwybr hefyd yn y man gwybodaeth Wi-Fi sydd ar dir y castell.
![](http://www.swanseacitycentre.com/wp-content/uploads/2019/07/Swansea-City-Centre110619_316-1024x684.jpg)
Llwybrau Dylan Thomas – Mae nifer o lwybrau yn Abertawe a gorllewin Cymru sy’n seiliedig ar leoliadau sy’n dathlu Dylan Thomas. Mae’r arweinlyfrau hyn, sydd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas, yn llawn straeon ac esboniadau sy’n rhoi cipolwg i chi ar fywyd ac amserau’r bardd enwog o Abertawe.
Llwybr Cerdded Canol y Ddinas – Mae’r llwybr hwn yn cynnwys yr holl uchafbwyntiau ac atyniadau sydd gan ganol y ddinas i’w cynnig, gan roi blas arbennig ar Abertawe i chi!
![](http://www.swanseacitycentre.com/wp-content/uploads/2019/07/110419Swansea-City-Centre-shoot_132-1024x681.jpg)
This post is also available in: English