
Bowlio
Does dim byd tebyg i gêm hwyliog o fowlio deg gyda theulu neu ffrindiau, ac mae gan Abertawe ddwy ale fowlio! Mae Tenpin Abertawe ym Mharc Tawe yn ale fowlio fodern â 26 lôn, gyda bar, adloniant, arcêd gemau ac ardal fwyta ac mae gan Superbowl UK Abertawe ar Stryd Efrog ale fowlio, cwrs ymosod o’r enw Ninja Tag yn ogystal â lle chwarae meddal o’r enw Crazy Club a lle chwarae meddal ar gyfer plant iau.
Sinema
P’un a ydych am weld ffilmiau poblogaidd neu ffefrynnau gŵyl newydd, mae gan dri sinema Abertawe ddewis amrywiol o ffilmiau ac amserau sy’n addas i bawb. Mae gan sinema ODEON ym Mharc Tawe ystod o sgriniau yn ogystal â chlybiau ffilm arbenigol y gallwch fod yn rhan ohonynt. Mae gan sinema Vue ar Stryd Efrog 13 sgrîn o wahanol feintiau, a gallwch ddewis uwchraddio i seddau mwy moethus. Mae Cinema & Co ar Stryd y Castell yn sinema annibynnol a chlyd, sydd â bar sy’n dangos ffilmiau hiraethus poblogaidd yn ogystal â ffilmiau indie newydd ac sydd hefyd yn cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.

Y Theatr
Mae theatr fwyaf ac enwocaf Abertawe, Theatr y Grand, wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas ar Stryd Singleton. Drwy gydol y flwyddyn mae’n croesawu cwmnïau teithiol mawr sy’n perfformio amrywiaeth o sioeau cerdd, dramâu, digrifwyr, bale ac opera yn ogystal â’r pantomeim adeg y Nadolig. Mae gan y theatr hon hefyd adain gelfyddydau ddiddorol a agorwyd gan Catherine Zeta Jones.
Mae Theatr Dylan Thomas, sydd hefyd yng nghanol y ddinas, yn rhoi cyfle i bobl weld, clywed a phrofi talent leol a rhyngwladol gan gynnwys gwaith Theatr Clwyd Cymru, Chwaraewyr Prifysgol Abertawe yn ogystal â Little Theatre Company.

Atyniadau Eraill
Laserzone – Gêm laser fyw, uwch-dechnoleg ger castell Abertawe. Mae’r arena aml-lefel ffugwyddonol yn ganolfan ryngweithiol ag effeithiau arbennig, niwl a phelydrau laser ac yn ddelfrydol i unrhyw un dros 7 oed sy’n mwynhau antur ddifyr!
LC – Mae parc dŵr dan do mwyaf Abertawe yn cynnwys sleidiau, efelychydd tonnau, a llawer mwy! Gallwch nofio, chwarae, dringo, cadw’n heini neu ymlacio yn y sba dan un to. I gael rhagor o wybodaeth am eu cyfleusterau ac amserau agor, ewch i’w wefan yma.

Plantasia – Mae coedwig law drofannol dan do Abertawe yn ddiwrnod allan perffaith ac unigryw i’r teulu’r, beth bynnag fo’r tywydd! Sylwch ar y pryfed byw ecsotig, yr ymlusgiaid, y pysgod a’r swricatiaid yn ogystal â’r fflora trofannol sy’n cynnwys planhigion banana, câns siwgwr, cacti pigog a bambwau enfawr wrth i chi deithio drwy ddau barth hinsawdd – mae Plantasia yn cynnig y cyfan!

This post is also available in: English