• Teithio a Pharcio
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
  • Digwyddiadau
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
  • Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

Swansea City Centre logo

The Waterfront City Centre

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Teithio a Pharcio
    • Gorsaf Bysus
    • Gorsaf Drenau
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
    • Siopa
      • Stryd Fawr
      • Ardal Siopau Annibynnol
      • Stryd Rhydychen
      • Marchnad Abertawe (allanol)
      • The Quadrant (allanol)
    • Pethau i wneud
      • Atyniadau
      • Amgueddfeydd/Orielau
        • Celf Gyhoeddus
      • Llwybrau
      • Bwyta ac Yfed
        • Caffis
        • Bywyd Nos
          • Faner Borffor
        • Tafarndai
        • Bwyta allan
    • Lleoedd i Aros
  • Digwyddiadau
    • Marchnad Nadolig Abertawe
      • Caban Y Carolwyr
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
    • Gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas
    • City Centre Rangers
    • Map canol y ddinas
    • Ffeithiau a Ffigurau
    • Wi-Fi a gwefru ffonau am ddim
    • Man storio bagiau (allanol)
    • Eiddo Coll
    • Astudio
    • Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
    • Croseo Bae Abertawe (allanol)
  • Cymraeg
    • English
You are here: Home / Archwiliwch Ganol y Ddinas / Pethau i wneud / Amgueddfeydd/Orielau

Amgueddfeydd/Orielau

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Abertawe, sy’n llawn celf a diwylliant, wrth ei bodd yn meithrin ac yn cefnogi ei doniau creadigol. Felly, mae canol y ddinas yn gartref i ddetholiad da o amgueddfeydd ac orielau, gyda nifer ohonynt yn cynnig mynediad am ddim.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu hanes, diwylliant a chyflawniad Cymru.  Mae’r amgueddfa’n dweud stori diwydiant ac arloesedd yng Nghymru, heddiw ac yn ystod y 300 mlynedd ddiwethaf. Mae’r cyfleuster yn cyfuno technoleg cyfrifiadura rhyngweithiol ac arddangosiadau gweledol trawiadol i gyfleu sut mae treftadaeth ddiwydiannol a morol Cymru wedi chwarae rôl wrth lywio economi a chymdeithas heddiw. Mae’n gyrchfan hanfodol ar gyfer unrhyw ymwelydd â chanol dinas Abertawe.

Amgueddfa Abertawe

Amgueddfa Abertawe yw’r hynaf yng Nghymru. Fe’i hagorwyd ym 1841 ac fe’i rheolir bellach gan Gyngor Abertawe. Mae’r amgueddfa’n drysor cudd o orffennol Abertawe ac yn gartref i ddarnau gosod parhaol, fel y bedd Eifftaidd ac arddangosfa Abertawe adeg rhyfel, yn ogystal ag ystafell arddangos drawsnewidiol. Mae’r adeilad hanesyddol hwn yn werth ei weld!

Canolfan Dylan Thomas yw’r canolbwynt bellach i ddathlu bywyd a gwaith y bardd byd-enwog, a chartref i ŵyl flynyddol Dylan Thomas. Enwyd yr adeilad gwych hwn ar ôl un o feibion ​​enwocaf Abertawe ac mae’n gartref i arddangosfa barhaol o’i fywyd. Ar wahân i’r casgliad a’r arddangosfa, mae siop yno hefyd sy’n gwerthu llyfrau, posteri a phethau cofiadwy.

Oriel Gelf Glynn Vivian

Agorodd Oriel Gelf Glynn Vivian yn wreiddiol ym 1911 ac fe’i hadfywiwyd yn 2016. Sefydlwyd yr oriel gan Richard Glynn Vivian, y curadur celf clodwiw, a adawodd ei gasgliad celf cyfan er mwynhad pobl Abertawe. Heddiw, mae’r oriel yn gartref i waith celf a chrochenwaith sy’n dyddio o’r 18fed ganrif hyd heddiw gan artistiaid o bob cwr o’r byd, gyda ffocws arbennig ar greawdwyr lleol. Os oes gennych ddiddordeb mewn celf, mae’n rhaid ymweld â hi pan fyddwch yng nghanol y ddinas. Byddwch hefyd wrth eich bodd yn ymweld ag Oriel Elysium ar Stryd Fawr sy’n cael ei rhedeg gan wirfoddolwr.

Mae orielau eraill yng nghanol y ddinas yn cynnwys Attic Gallery, sef oriel breifat hynaf Cymru. Fe’i sefydlwyd ym 1962 i amlygu gwaith artistiaid cyfoes sy’n gweithio yng Nghymru, ac mae yn yr Ardal Forol.

Hefyd yn yr Ardal Forol mae Oriel Mission; lleoliad celfyddydol unigryw sy’n arddangos y gorau ym meysydd y celfyddydau gweledol a chrefft yn un o’r mannau orielu ac arddangos mwyaf arbennig, ac sydd wedi’u haddasu orau, ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru.

Oriel Mission

This post is also available in: English

Primary Sidebar

Map canol y ddinas

  • Hafan
  • Preifatrwydd a Cwcis

Return to top of page

Copyright © 2023 · Swansea City Centre · Cookie Policy

  • Cymraeg
  • English