
Wyddech chi fod Abertawe wedi’i henwi’n ddiweddar yn ddinas harddaf y DU?
Wyddech chi fod gan Abertawe 32 filltir o arfordir trawiadol gyda thros 50 o draethau a childraethau sydd wedi’u henwi – dyna draeth am bob wythnos o’r flwyddyn!

Wyddech chi mai Marchnad Abertawe yw’r farchnad dan do fwyaf yng Nghymru gyda thros 100 o stondinau annibynnol?
Wyddech chi mai Amgueddfa Abertawe yw’r amgueddfa gyhoeddus hynaf yng Nghymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yw un o amgueddfeydd mwyaf diweddar Cymru?

Wyddech chi fod gan Dŵr Cei Meridian ym Marina Abertawe 29 llawr, ac ef yw adeilad preswyl talaf Cymru gyda golygfeydd panoramig o Fae Abertawe a bar a bwyty ar y llawr uchaf?
Wyddech chi fod Abertawe wedi’i henwi’n ddiweddar yn ddinas fwyaf croesawgar, cyfeillgar a dibynadwy’r DU?
This post is also available in: English