
Heddiw, mae’r ardal rhwng castell Abertawe a’r orsaf drenau, sef prif ardal siopa canol y ddinas ar un adeg, yn llawn manwerthwyr annibynnol, bariau ffasiynol, bwytai, caffis, siopau bwyd cyflym ac archfarchnadoedd bwyd rhyngwladol.
Mae’r stryd hefyd wedi dod yn fan poblogaidd ar gyfer y celfyddydau creadigol gyda mannau megis Theatre Volcano, Galerie Simpson ac Oriel Elysium gerllaw lleoliad cerddoriaeth The Hyst yn cynnal ystod amrywiol o berfformiadau, o gerddoriaeth fyw i fwrlésg. Hefyd, ceir llawer o gelf stryd fywiog sy’n ychwanegu lliw a steil at yr ardal brysur hon.

Ynghanol yr holl greadigrwydd, tafarndai, bariau a bwytai, byddwch hefyd yn gallu dod o hyd i’r manwerthwr cenedlaethol Argos yn ogystal ag amrywiaeth o siopau arbenigol fel Audio T, The Gamers Emporium, Arcêd y Stryd Fawr, salonau gwallt a harddwch, barbwyr, canolfannau adloniant rhith-wirionedd ac archfarchnad bwyd rhyngwladol.
This post is also available in: English