
Ynghyd â’r detholiad cyffrous o fariau a chlybiau nos, mae casgliad eclectig o dafarndai clyd yng nghanol dinas Abertawe i gynnig croeso cynnes i chi.

The Cross Keys yw’r tafarn hynaf yng nghanol dinas Abertawe, gyda hanes sy’n dyddio’n ôl i 1332. Mae ganddo ardd gwrw hefyd, lle dal haul y gellir ei fwynhau yn ystod misoedd yr haf.

Mae No Sign Wine Bar yn far hanesyddol arall, a dyma oedd hoff gyrchle Dylan Thomas. Mae’n dafarn dymunol a thawel, gyda’i chwaer-far Mundays, lolfa goctels, ar y llawr uchaf a The Vault, lleoliad cerddoriaeth, ar y llawr isaf
Roedd Dylan Thomas hefyd yn mynd i’r dafarn gastro Three Lamps hefyd, sydd wedi cael ei adnewyddu’n ddiweddar. Mae’r lleoliad hefyd yn cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw.
Byddwch hefyd yn dod o hyd i amrywiaeth o gadwyni enwog yng nghanol y ddinas, megis tafarndai The Bank Statement a The Potter’s Wheel JD Wetherspoon ynghyd â thafarndai Eli Jenkins a The Griffin Stonegate, sydd i gyd mewn lleoliad canolog.

This post is also available in: English