
Mwynhewch seibiant haeddiannol o siopa yn un o gaffis niferus Abertawe, neu os ydych yn ymweld â chanol y ddinas yn rheolaidd, beth am roi cynnig ar rywle newydd gyda’r teulu neu’ch ffrindiau?
Ceir tai coffi cenedlaethol fel Costa Coffee yng nghanol y ddinas, yn ogystal â chadwynau amgen fel Coffee 1 sydd ag awyrgylch braf ar gyfer cwrdd â ffrindiau neu gaffi tawel Waterstones Café, lle i fwynhau coffi da a llyfr da.

Mae digonedd o gaffis annibynnol i’w cael. Mae llawer yn cynnig brecwast a chinio fel Gershwin’s Coffee House a Pastel de Nata yn yr Ardal Annibynnol.
Mae Tino’s ar Stryd y Gwynt yn siop frechdanau boblogaidd, gydag iard i fwynhau’ch coffi neu bryd yn yr heulwen. Kardomah yw’r siop goffi hwyaf ei gwasanaeth yn y ddinas, sy’n enwog am ei chymeriad, ei hanes a’i gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol.
Mae marchnad Abertawe hefyd yn gartref i lawer o gaffis. Mae Country Kitchen a The Lunchbox yn gweini diodydd poeth a chiniawau poeth, Café Janet yng nghanol y ddinas yn lle perffaith i gael paned a gorffwys am ychydig.

This post is also available in: English