• Teithio a Pharcio
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
  • Digwyddiadau
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
  • Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

Swansea City Centre logo

The Waterfront City Centre

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Teithio a Pharcio
    • Gorsaf Bysus
    • Gorsaf Drenau
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
    • Siopa
      • Stryd Fawr
      • Ardal Siopau Annibynnol
      • Stryd Rhydychen
      • Marchnad Abertawe (allanol)
      • The Quadrant (allanol)
    • Pethau i wneud
      • Atyniadau
      • Amgueddfeydd/Orielau
        • Celf Gyhoeddus
      • Llwybrau
      • Bwyta ac Yfed
        • Caffis
        • Bywyd Nos
          • Faner Borffor
        • Tafarndai
        • Bwyta allan
    • Lleoedd i Aros
  • Digwyddiadau
    • Marchnad Nadolig Abertawe
      • Caban Y Carolwyr
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
    • Gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas
    • City Centre Rangers
    • Map canol y ddinas
    • Ffeithiau a Ffigurau
    • Wi-Fi a gwefru ffonau am ddim
    • Man storio bagiau (allanol)
    • Eiddo Coll
    • Astudio
    • Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
    • Croseo Bae Abertawe (allanol)
  • Cymraeg
    • English
You are here: Home / Archwiliwch Ganol y Ddinas / Pethau i wneud / Amgueddfeydd/Orielau / Celf Gyhoeddus

Celf Gyhoeddus

Comisiynwyd celfweithiau cyhoeddus ysbrydoledig yng nghanol y ddinas mewn ardaloedd allweddol fel rhan o brosiectau parhaus ac a gwblhawyd fel ‘Celf ar Draws y Ddinas’ ac ‘O’r Orsaf i’r Môr’.

Dyma rai o’r gweithiau y gellir eu mwynhau yng nghanol y ddinas ac o’i chwmpas, ond cadwch eich llygaid ar agor gan fod llawer mwy o weithiau’n guddiedig yn y ddinas i’w gwerthfawrogi.

Y Stryd Fawr

Mae nifer o celfweithiau cyhoeddus y gellir eu gweld yn sirioli’r Stryd Fawr sy’n gartref i fannau creadigol megis Theatr Volcano a Simpson Galleries yn ogystal â mentrau cymdeithasol fel Tai Coastal, gan greu amgylchedd delfrydol ar gyfer celf. 

Mae amrywiaeth o weithiau; o ddathliad Peter Fowler o Dylan Thomas, ar gyfer ‘Celf ar Draws y Ddinas’ gyferbyn â’r orsaf drenau, i furlun trawiadol Pure Evil o Elizabeth Taylor uwchben Theatr Volcano ei hun, yn ogystal â chofeb i’r artistiaid a ddaeth i Abertawe ar Benwythnos Mawr Radio 1 y BBC yn 2018.

O’r Orsaf i’r Môr

Nod y prosiect celf ‘O’r Orsaf i’r Môr’, a grëwyd ar y cyd gan Dai Coastal a Theatr Volcano ac a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yw cynhyrchu celf a ysbrydolwyd gan y Stryd Fawr; y ddinas o’i chwmpas a’i chysylltiad â glan y môr. Mae’r prosiect wedi cynnwys profiadau theatrig ac ymdrochol yn ogystal â gosod darnau celf hirhoedlog, fel blaen siop fywiog Photini Matsi.

Lapio Strydoedd Abertawe

Yn ogystal â’r cyfoeth o gelf gyhoeddus yn yr ardal, mae blychau cyfleustodau hefyd wedi’u haddurno ar y Stryd Fawr. Mewn cydweithrediad â’r cynllun ‘O’r Orsaf i’r Môr’, crëodd Myfyrwyr Coleg y Celfyddydau Abertawe batrymau wedi’u hysbrydoli gan nodau’r prosiect. Pleidleisiodd y cyhoedd dros eu hoff ddyluniadau trawiadol o blith y rhain a gosodwyd yr enillwyr ar flychau cyfleustodau ar y Stryd Fawr, gan harddu’r stryd ymhellach.

Celf ar Draws y Ddinas

Mae elusen fyd-eang Abertawe, LOCWS Rhyngwladol, wedi bod yn cyflwyno ‘Celf Ar Draws y Ddinas’ ers 18 mlynedd, gyda thros 100 o gelfweithiau wedi’u comisiynu yn Abertawe, boed yn rhai dros dro a pharhaol.

Mae’r prosiect hwn yn cynnwys; gwaith celf neon DJ Robert sy’n dyfynnu darllediad radio Dylan Thomas, ‘Return Journey to Swansea’ ar ochr caffi hynaf Abertawe, The Kardomah, ‘Terpsichorean Trio’ Rik Bennett a ysbrydolwyd gan y neuaddau dawns, y tafarndai a’r clybiau a fu’n ffynnu unwaith ar y Stryd Fawr, gwaith Bedwyr Williams sef ‘Lionheart & Lightsout’ ar Ffordd y Brenin sy’n coffáu llên gwerin cyfoes , awyrlun Niamh McCann sy’n deyrnged i ‘Under Milk Wood’ Dylan Thomas a welir yn Theatr Dylan Thomas ac o bosibl y mwyaf eiconig o’r gweithiau hyn, More Poetry is Needed gan Jeremy Deller, sydd i’w gweld ym maes parcio’r Santes Fair.

Stryd y Gwynt

Mae golygfa ynys drofannol ac afanc anferth ymysg y gweithiau y gellir eu mwynhau o amgylch y bariau, y bwytai a’r clybiau sydd ar hyd Stryd y Gwynt a’r strydoedd cefn cyfagos.

Oddi ar Stryd y Gwynt, trwy Salubrious Passage, fe welwch geriwb yn dyfynnu ‘Fern Hill ’Dylan Thomas.

Ardal Forol

Mae yna drysorfa o gelf a cherfluniau cyhoeddus i’w mwynhau wrth gerdded drwy’r marina a thu hwnt i lan y môr sy’n dathlu hanes Abertawe, chwedlau lleol a rhamant y ddinas â’r môr.  

This post is also available in: English

Primary Sidebar

Map canol y ddinas

  • Hafan
  • Preifatrwydd a Cwcis

Return to top of page

Copyright © 2023 · Swansea City Centre · Cookie Policy

  • English
  • Cymraeg