
Ddydd a nos, mae rhywbeth i bawb yng nghanol dinas Abertawe!
Dewch i siopa am y tueddiadau diweddaraf, cael eich gwefreiddio yn yr LC, darganfod mwy yn yr amgueddfeydd a’r orielau celf, bwyta ac yfed yn y caffis a’r bwytai gwych, cael eich diddanu yn y sinemâu a’r theatrau a dawnsio drwy’r nos!

Atyniadau – Mae atyniadau gwych yng nghanol y ddinas, o sinemâu a theatrau i goedwig law dan do, Plantasia! Yn y marina, dewch chi o hyd i deithiau cychod cyffrous i benrhyn Gŵyr yn ogystal â chyfleoedd i ymlacio at fordeithiau ar hyd afon Tawe, neu gael hwyl yn yr LC, sy’n cynnwys parc dŵr dan do cyffrous gyda sleidiau, board rider a pheiriant tonnau, yn ogystal â dringo creigiau a lle chwarae meddal. Mae yna hefyd lasertag cyffrous yn Laserzone a dwy ale fowlio, bowlio deg pin, ynghyd ag arcêd gemau, a Superbowl gyda Ninja Tag a Crazy Club ychwanegol!

Bwyta allan – Mae Abertawe wedi ennill enw da fel hafan bwyd, gyda llawer ar gael gan werthwyr bwyd stryd o amgylch y ddinas yn ogystal ag ym Marchnad Abertawe, ac o gaffis, bariau, bwytai a bistros mae dewis gwych o flasau lleol a rhyngwladol at bob chwaeth.

Amgueddfeydd ac Orielau – Dewch i ddarganfod pethau newydd yn yr amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau cyffrous sy’n addas ar gyfer pob oed a diddordeb. Mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyfleusterau ac arddangosfeydd hynod fodern ac mae Amgueddfa Abertawe, sy’n draddodiadol ac yn hanesyddol, yn arteffact ynddi’i hun! Ar gyfer y rheiny â diddordeb mewn celf, mae dewis eang o orielau yn y ddinas sy’n sicr o’ch diddanu am oriau a bydd y rhai sy’n dwlu ar farddoniaeth wrth eu boddau â Chanolfan Dylan Thomas, sy’n canolbwyntio’n unswydd ar ei waith.

Gyda’r hwyr – Er bod yr haul yn machlud yn Abertawe, nid yw’r hwyl yn dod i ben! Mae’r ddinas yn dod yn fyw gyda’r hwyr, gyda bwytai, bariau a chlybiau sy’n enwog yn genedlaethol yn cadw hwyl y parti nes yr oriau mân.

Digwyddiadau – Trwy gydol y flwyddyn, mae’r ddinas yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous.
This post is also available in: English