||
||
Newid maint y testun
| Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Canol y Ddinas|
Website URL : http://www.swanseacitycentre.com/index.cfm?articleid=6500
||

Partneriaeth Canol Dinas

Partneriaeth Canol Dinas Abertawe - partneriaeth rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Wedi'i lansio yn swyddogol ym mis Tachwedd 2001, mae'r Bartneriaeth yn dod â chynrychiolwyr ynghyd o'r gymuned fusnes leol, y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cynulliad Cymru, y Cyngor a'r Siambr Fasnach.

Aelodaeth

Mae aelodau'r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau canlynol:

  • Y Cyngor
  • Yr Heddlu
  • Manwerthwyr Annibynnol/Cenedlaethol
  • Hamdden
  • Eiddo
  • Cyfryngau
  • Preswylwyr
  • BID
  • Sector Gwirfoddol
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Siambr Fasnach Gorllewin Cymru
  • Y Ganolfan Siopa
  • Cyllid
  • Trafnidiaeth
  • Llety
  • Addysg

Gweledigaeth ac Amcanion

Mae Partneriaeth Canol y Ddinas yn pennu cyfeiriad strategol canol y ddinas ac mae aelodau'r Bartneriaeth yn cydweithio i gyflwyno'u gweledigaeth sef 'Datblygu Canol Dinas Abertawe fel prif gyrchfan a lle bywiog a deinamig i siopa, byw, gweithio ac ymweld ag ef'. Cyflwynir y weledigaeth hon yn y Cynllun Gweithredu blynyddol sy'n cael ei rannu i'r chwe amcan allweddol canlynol:

- Dull strategol a chydlynol
- Canol y Ddinas cystadleuol
- Mynediad hwylus
- Amgylchedd diogel
- Canol Dinas glân a deniadol
- Marchnata a hyrwyddo

Mae'r Cynllun Gweithredu yn ddogfen allweddol wrth gyflwyno'r camau gweithredu yr ymgymerwyd â hwy gan amryw o sefydliadau gwahanol yng nghanol y ddinas neu y mae ganddynt ddiddordeb ynddo.  Mae'r cynllun gweithredu hefyd yn offeryn hollbwysig wrth nodi'r cerrig milltir blynyddol gofynnol er mwyn sicrhau cynnydd cyflwyno'r prosiectau a nodwyd yn Fframwaith Strategol Canol y Ddinas.  

Mae tîm, dan arweiniad Rheolwr Canol y Ddinas, yn gyfrifol am redeg y bartneriaeth o ddydd i ddydd, gan wasanaethu a chefnogi'r bartneriaeth.  Mae'r tîm yn rhoi sawl menter diogelwch amgylcheddol a chymunedol ar waith, yn hyrwyddo ac yn marchnata'r bartneriaeth ac yn rheoli Marchnad Dan Do Abertawe a Shopmobility.

Mae Gwasanaeth Ceidwaid Canol y Ddinas hefyd yn cael eu rheoli gan dîm Partneriaeth Canol y Ddinas. Cyflogir Ceidwaid i batrolio calon canol y ddinas i sicrhau amgylchedd diogel i siopwyr ac ymwelwyr.

© 2010 Canol y Ddinas