||
||
Newid maint y testun
| Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Canol y Ddinas|
Website URL : http://www.swanseacitycentre.com/index.cfm?articleid=6418
||

Cefnogaeth a Gwybodaeth Fusnes

image depicting Business

Mae ugain mlynedd o dwf economaidd dramatig wedi annog bywiogrwydd a hyfywedd Abertawe a denu buddsoddi pellach sylweddol.

Mae datblygiadau preswyl, hamdden, masnach a busnesau newydd, gwerth cyfanswm o fwy na £1 biliwn, wedi'u cynllunio dros y deng mlynedd nesaf, gan sefydlu Abertawe ymhellach fel lleoliad gwych ar gyfer busnes gydag ystod eang o gyfleoedd i fuddsoddi.

Pam Abertawe ...?

  • Abertawe—canolfan ranbarthol de-orllewin Cymru ar gyfer siopa, hamdden, diwylliant, masnach ac addysg
  • Poblogaeth 228,100 gan gynnwys 24,000 o fyfyrwyr
  • Dalgylch manwerthu o 1.5 miliwn o bobl (500,000 o fewn 30 munud o amser gyrru i ganol y ddinas ac 1.5 miliwn o fewn awr)
  • Dros 450 o allfeydd manwerthu a gwasanaethu gyda chyfanswm maint lloriau o 1.4m troedfedd sgwâr
  • Llif cerddwyr wythnosol dros 140,000 o bobl mewn lleoliadau allweddol
  • Cyrhaeddodd safle 60 ar restr 'Venuescore' o ganolfannau siopa'r DU, a gyhoeddir gan Gr?p Javelin
  • 4.1 miliwn o ymwelwyr â'r ardal bob blwyddyn
  • Economi nos lwyddiannus, ac fe'i gelwir yn 'Brif Ddinas Clybiau Nos De Cymru'
  • Mabwysiadwyd Fframwaith Strategol Canol y Ddinas yn 2007 yn amlinellu cynigion i adfywio canol y ddinas
  • Dewiswyd Hammerson – un o ddatblygwyr blaenllaw Ewrop – i arwain adfywio prif safleoedd manwerthu a glan môr y ddinas mewn cynllun gwerth £1 biliwn

Gwiriadau Iechyd a Chynlluniau Gweithredu - Adroddiad blynyddol a gomisiynwyd gan y Bartneriaeth, sy'n adolygu 'iechyd' Canol y Ddinas fel lle bywiog a deniadol i siopa, i gynnal busnes, i weithio, i fyw ac i dreulio amser hamdden ynddi.  Mae wedi'i strwythuro o gwmpas dadansoddi dangosyddion perfformiad meintiol ac ansoddol allweddol, yn amlygu cryfderau a gwendidau a chyfleoedd ar gyfer hyrwyddo, rheoli a datblygiadau yn y dyfodol.   

Datblygiadau a Phrosiectau Mawr - Mae Abertawe yn parhau i ddenu cyfleoedd ar gyfer datblygiadau mawr a buddsoddi wrth i'w phroffil fel canolfan ranbarthol de Cymru ehangu.  Mae buddsoddi cyfredol a chynnydd mewn hyder yng Nghanol y Ddinas yn cyfrannu at drawsnewidiad ac adfywiad Canol y Ddinas.  Mae prosiectau mawr megis ailddatblygu'r hen House of Fraser, coridor Ffordd y Dywysoges, Cei Ferrara a Meridian, a Glannau SA1 Abertawe, i gyd yn ceisio cysylltu â Canol y Ddinas â'i lleoliad unigryw ar lan y môr, gan adeiladu dinas Ewropeaidd. 

Canolfan Fusnes Abertawe - I gael cymorth i sefydlu busnes ewch i Ganolfan Fusnes Abertawe am gyngor ar grantiau, ymchwilio'r farchnad, cynllunio busnes a rhagolygon ariannol.

Ardal Gwella Busnes - Dysgwch fwy am lwyddiant Abertawe wrth ddod yn Ardal Gwella Busnes cyntaf Cymru. (BID)  Bydd BID Abertawe yn cynnal gwelliannau buddiol a diriaethol i amgylchedd masnachu Canol y Ddinas drwy brosiectau yn ymwneud â 5 thema:

1. Gwella cludiant a mynediad

2. Cefnogi masnachwyr sydd eisoes yn bodoli a denu busnesau newydd

3. Cynyddu delwedd a phroffil Canol y Ddinas

4. Bywiogi Canol y Ddinas.

5. Creu amgylchedd mwy diogel

Rhaglen Gwella Adeiladau - Mae Grantiau Gwella Trefi ar gael i berchnogion neu ddeiliaid eiddo cymwys yng nghanol y ddinas sy'n dymuno gwneud gwaith i wella ffasâd adeiladau a blaen siopau.

Canfasio a  Gosodiadau Hyrwyddol - Mae Canol y Ddinas yn rhoi cyfleoedd hyrwyddol unigryw i fusnesau, grwpiau cymunedol, a mudiadau cyhoeddus/gwirfoddol.  Dewiswch o brif leoliadau yng Nghanol y Ddinas gan gynnwys Stryd Rhydychen, Ffordd y Dywysoges, Stryd yr Undeb a Whitewalls.  Cydlynir a rheolir gweithgareddau canfasio yng Nghanol y Ddinas a darperir cyfleoedd ar gyfer ymchwilio'r farchnad, arolygon a holiaduron.

Eiddo Gwag - Chwilio am leoliad ar gyfer eich busnes newydd?  Dewch o hyd i eiddo sydd ar gael ar brydles yng nghalon y Ddinas.

Bargeinion Canol y Ddinas - Gall busnesau gyrraedd cynulleidfa ehangach drwy hysbysebu am ddim ar y rhyngrwyd.

© 2010 Canol y Ddinas