|
|
||
HamddenMae rhywbeth at ddant pawb gyda'r dydd a'r nos yng Nghanol Dinas Abertawe.
Mae'r gweithgarwch diwylliannol yn fywiog ac yn amrywiol gyda dewis helaeth o amgueddfeydd, orielau celf, sinemâu a theatrau'n hyrwyddo'r rhaglen ragorol o ddigwyddiadau a gweithgareddau blynyddol. Mae yma hefyd ddigonedd o gyfleoedd chwaraeon a hamdden o safon. Gyda chyfadeilad hamdden LC wedi agor yn ddiweddar, does dim amser gwell i ymweld â chanol y ddinas. Lleoedd Bwyta - Mae gan Abertawe enw da am safon ei fwytai gydag amrywiaeth cyffrous o seigiau lleol a rhyngwladol ar gael mewn dewis eang o fwytai. O fariau caffis i fwytai a bistros, mae Abertawe'n cynnig dewis gwych at ddant a phoced pawb. Amgueddfeydd ac Orielau - mae Amgueddfa Abertawe'n drysorfa hynod ddiddorol o hanes y ddinas wedi'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn amgueddfa hynaf Cymru. Ac wrth gwrs, rhaid ymweld ag amgueddfa fwyaf newydd Abertawe, sef Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, lle mae rhywbeth i'r teulu i gyd gydag arddangosiadau, arddangosfeydd a pharthau dysgu rhyngweithiol. Chwaraeon a Gweithgareddau. - Ewch i ymweld â chartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Chlwb Rygbi'r Gweilch yn Stadiwm Liberty o safon rhyngwladol ar gyrion canol y ddinas. Noson Mâs - Ac wrth i'r haul fachlud dros Abertawe, bydd bywyd nos bywiog o fariau, bwytai, casinos a chlybiau sy'n enwog yn genedlaethol megis Escape, Play ac Oceana, yn ddigon i'ch difyrru drwy'r nos. Caiff y rhai sy'n hoffi bywyd nos a phartïon weld bod Abertawe yn un o'r dinasoedd mwyaf diogel ar gyfer noson mâs oherwydd gwaith sydd wedi'i gydnabod yn genedlaethol drwy gynllun Gwarchod Clybiau a Thafarnau Canol y Ddinas a Phartneriaeth Abertawe Mwy Diogel. Digwyddiadau - I weld rhestr o ddigwyddiadau hamdden a chwaraeon Canol y Ddinas cliciwch yma .
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Awst 10 2010