|
|
||
Gwybodaeth i Deithwyr![]() Rydym yn creu gorsaf fysus newydd ar gyfer yr 21ain ganrif gyda'r cyfleusterau diweddaraf, ardaloedd aros gwell a gwell mynediad i'r siopau.Mae hynny'n golygu y bydd Gorsaf Fysus y Cwadrant yn cau pan fydd y bws olaf yn ymadael ar 13 Mehefin er mwyn dechrau ar y cynllun ailddatblygu gwerth miliynau o bunnoedd y mae teithwyr wedi disgwyl yn hir amdano. Tra bod yr orsaf fysus newydd yn cael ei hadeiladu, bydd safleoedd bysus dros dro yn gweithredu ar draws canol y ddinas o 14 Mehefin fel bod teithwyr yn dal i gyrraedd eu gwaith, y siopau a busnesau'n ddidrafferth. Gallwch gael gwybod ble bydd eich bws yn aros a ble bydd y gwasanaethau eraill yn symud yn y canllaw hwylus yma yn y daflen hon. Os byddwch am wybodaeth ynghylch amserlenni bysus, yna bydd ar gael gan weithredwyr bysus a Traveline Cymru. Disgwylir i'r gwaith ailddatblygu gymryd tua 15 mis a bydd yr orsaf fysus newydd yn borth modern i ddinas Abertawe. Bydd 20 cilfach fysus, tri safle coetsis, cyfleusterau modern i deithwyr a mynediad hwylus i'r siopau a chyfleusterau Shopmobility. Felly, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar wrth i ni adeiladu gorsaf fysus fodern y bydd Abertawe yn falch ohoni. Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru, ac fe'i hariennir gan y Grant Trafnidiaeth a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. I weld map o'r safleoedd bws dros dro yng Nghanol y Ddinas, cliciwch ar y ddolen isod.
|
|
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Mawrth 22 2010