||
||
Newid maint y testun
| Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Canol y Ddinas|
Website URL : http://www.swanseacitycentre.com/index.cfm?articleid=26753
||

Rhaglen Gwella Adeiladau

Mae Dinas a Sir Abertawe a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio mewn partneriaeth Cyd Fenter, a nhw yw'r ddau brif sefydliad yn y sector cyhoeddus i hyrwyddo'r gwaith o adfywio Canol Dinas Abertawe.

Ar 5 Mawrth 2007, lansiodd y Gyd Fenter a Phartneriaeth Canol Dinas Abertawe Fframwaith Strategol Canol Dinas Abertawe sydd yn amlinellu strategaeth adfywio lawn gweledigaeth yn Abertawe. Bydd modd rhoi hon ar waith yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf.

Mae'r Rhaglen Gwella Adeiladau yn un o nifer o raglenni buddsoddi craidd y Fframwaith. Cafodd ei sefydlu i hyrwyddo ffasadau o ansawdd da ar adeiladau canol y ddinas a gwella blaenau'r siopau, gyda chymorth Grantiau Gwella Trefi.

Mae Grantiau Gwella Trefi ar gael i berchnogion neu feddianwyr eiddo cymwys yng nghanol y ddinas sydd am wella ffasâd eu hadeiladau neu flaenau eu siopau.

Bydd y ceisiadau am arian dan Grantiau Gwella Trefi yn cael eu hasesu'n unigol, gan ystyried y lles economaidd ac mgylcheddol a fyddai'n dod yn sgil y prosiect. Fel arfer, bydd Grantiau Gwella Trefi yn cynnig isafswm yr arian sydd ei angen i roi'r prosiect ar waith.

Mae ffasadau, toeon, blaenau siopau, ac arwyddion, ynghyd â ffi oedd gweithwyr proffesiynol perthnasol, i gyd ymhlith yr eitemau sy'n gymwys i dderbyn grant. Nid yw mannau nad yw'r cyhoedd yn eu gweld, gwaith trwsio saernïol o bwys a gwaith cynnal a chadw arferol yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol.

Dim ond partneriaid y Gyd Fenter sy'n cael dyfarnu'r grant a phennu'r swm ariannol. Mae'n bwysig nodi nad yw cais yn gymwys os yw'r gwaith arfaethedig wedi dechrau neu wedi cael ei gyhoeddi cyn i'r grant gael ei ddyfarnu.


pdf icon Building Enhancement Programme Area Plan [911kb]

pdf icon Building Facade and Shopfront Design Guide [2.0Mb]

pdf icon Construction Brief [223kb]

pdf icon Building Enhancement Programme Oxford Street Design Guide [2.4Mb]


Gwybodaeth i Ymgeiswyr, cysylltwch â:

Sara Brock, City Centre Project Officer,
Dinas a Sir Abertawe, Y Ganolfan Ddinesig,
Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN
Ffôn: (01792) 635705

© 2010 Canol y Ddinas