||
||
Newid maint y testun
| Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Canol y Ddinas|
Website URL : http://www.swanseacitycentre.com/index.cfm?articleid=23674
||

Cyrraedd

Canol Dinas Abertawe...

Mae'n hawdd cyrraedd canol dinas Abertawe ar y ffordd, ar drên, dros fôr ac mewn awyren.

Ffordd – Mae Abertawe 3½ awr yn unig o Lundain. Mae canol y ddinas oddi ar yr A483 Ffordd Fabian sy'n arwain at gyffordd 42 traffordd yr M4. Gellir cyrraedd y rhwydwaith draffordd cenedlaethol, gan gynnwys Canolbarth Lloegr, y De-orllewin a'r Gogledd, yn hwylus o'r M4.

Trên – Mae gwasanaeth trên yn mynd o Lundain i Abertawe bob awr (hyd y daith yw 3 awr) yn ogystal â gwasanaethau rheolaidd eraill i brif gyrchfannau busnes. Hefyd mae trên drwodd sy'n rhedeg bob awr o Fanceinion gyda phob rhanbarth yn Lloegr yn cael ei gysylltu ag Abertawe drwy un gyfnewidfa bob awr, saith niwrnod yr wythnos.

Môr – Mae'r MV Julia yn darparu cysylltiad fferi uniongyrchol rhwng Abertawe a Chorc yn ne Iwerddon. Mae lle ar yr MV Julia i 1,860 o deithwyr, 440 o geir a 40 o dryciau ac mae dros 300 caban ar ei bwrdd er mwyn rhoi taith gyfforddus.

Hedfan – Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd 50 munud yn unig o ganol dinas Abertawe ar hyd y ffordd neu ar drên. Mae hefyd gysylltiadau ffordd a thrên ardderchog o feysydd awyr Bryste, Heathrow a Gatwick.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Dewch i Fae Abertawe


Er mwyn lansio map rhyngweithiol, cliciwch ar y botwm isod.

Mae angen Javascript wedi'i alluogi ac Adobe Flash er mwyn gweld y map.

Mae Adobe Flash Player yn safonol ar gyfer darparu cynnwys gwe tra effeithiol, o safon, lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf yma.

Os nad oes gan eich cyfrifiadur personol Adobe Flash Player, Sut i ddod o hyd i ni map yma.


Sut i gyrraedd Abertawe.

Lansio'r map

CCSF How To Find Us
CCSF How To Find Us

Sut i ganfod eich ffordd o gwmpas canol Dinas Abertawe.

pdf icon Map Poced Canol y Ddinas Abertawe [1.2Mb]

Image depicting CCSF Pocket Map

Parcio Ceir

Mae 8,580 o leoedd mewn 25 maes parcio naill ai yng Nghanol y Ddinas neu gerllaw. Mae parcio 1 awr AM DDIM hefyd ar gael yn y meysydd parcio NCP ar Ffordd y Brenin, Stryd y Berllan a Salubrious Place (gweler y posteri yn y meysydd parcio) ac mae meysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y ddinas AM DDIM bob dydd Sul.

Gellir cyrraedd Canol y Ddinas hefyd drwy Barcio a Theithio. Mae’n llawer haws defnyddio’r cyfleusterau Parcio a Theithio. £2.20 yn unig ydyw i barcio’r car drwy’r dydd a gall hyd at 4 person deithio i Abertawe ac yn ôl. Mae safleoedd yng Ngland?r, Fforestfach a Ffordd Fabian, gyda’r safleoedd yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau fel mannau aros dan do gyda thoiledau a chyfleusterau newid babanod. Mae peiriannau lluniaeth a rheseli beiciau hefyd ar gael. Ar gyfer teithwyr anabl, mae’r llwybrau cerdded yn wastad ar y safleoedd, toiled ar gyfer yr anabl ac mae lloriau isel, mynediad hawdd i’r bysus, gydag ardal ddynodedig i berson mewn cadair olwyn.

shopmobility

Mae Canolfan Shopmobility Abertawe, yn Uned 12 Canolfan Siopa Dewi Sant, yn darparu sgwteri electronig, cadeiriau olwyn pweredig neu rhai cyffredin ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr; waeth beth fo’u hoedran neu os yw’r anabledd yn un dros dro neu barhaol. Am fwy o fanylion, ffoniwch y Ganolfan Shopmobility ar 01792 461785.

© 2010 Canol y Ddinas