||
||
Newid maint y testun
| Arferol| Cyferbynnu
Logo to act as a header and advert for Canol y Ddinas|
Website URL : http://www.swanseacitycentre.com/index.cfm?articleid=23527
||

Y Weledigaeth

The ambitions set out for our City Centre....

Yr uchelgeisiau ar gyfer Canol ein Dinas...Image depicting Meridian Quay

Ein gweledigaeth yw gwneud Abertawe sy'n fywiog, gyffrous, ddeniadol, gynaliadwy, yn Ddinas y Glannau â Chanol diwylliedig Ewropeaidd a fydd yn denu busnesau ac ymwelwyr, yn gyrru'r economi ac yn gwella ansawdd bywyd trigolion Abertawe a De Orllewin Cymru.

Mae'r Fframwaith yn cynnig gobeithion gwych ar gyfer Canol ein Dinas ond, i'w gwireddu, rhaid i ni lwyddo yn yr amcanion strategol canlynol.

Rydym yn anelu at...

  • Adeiladu economi Canol Dinas gystadleuol yn seiliedig ar wasanaethau, sgiliau a phartneriaethau newydd
  • Gwneud Abertawe'n gyrchfan manwerthu ddeniadol a hygyrch, gydag adeiladau newydd o bwys, siopau arbenigol ac amrywiol, a defnyddiau atodol cefnogol
  • Creu amgylchedd adeiledig deniadol o ansawdd uchel a gwneud Abertawe'n adnabyddus fel enghraifft nodedig o ragoriaeth a chyfrifoldeb amgylcheddol
  • Manteisio i'r eithaf ar asedau naturiol yr afon a'r glannau drwy greu cysylltiadau a phyrth newydd i'w gwneud yn rhan integredig o Ganol y Ddinas
  • Gwella'r gallu i symud o amgylch a thrwy Canol y Ddinas, ar droed, gyda chludiant cyhoeddus neu mewn car
  • Gwneud Abertawe yn gyrchfan dinas wirioneddol i dwristiaeth, ymwelwyr a phobl busnes fel ei gilydd
  • Sefydlu Abertawe'n gadarn fel canolfan o bwys yn ne-orllewin Cymru, ar gyfer iechyd, addysg a gwasanaethau ac asiantaethau cyhoeddus eraill
  • Mynegi a dathlu hunaniaeth arbennig Abertawe drwy ei thirlun, dyluniad ei hadeiladau, ei diwylliant a'i threftadaeth
  • Annog mwy o bobl i fyw mewn Canol y Ddinas sy'n ffynnu ac yn fywiog

Gallwn wireddu pob un o'r amcanion hyn – a gwneud Canol Dinas Abertawe'n lle gwell, am flynyddoedd i ddod.


Er mwyn lansio map rhyngweithiol, cliciwch ar y botwm isod.

Mae angen Javascript wedi'i alluogi ac Adobe Flash er mwyn gweld y map.

Mae Adobe Flash Player yn safonol ar gyfer darparu cynnwys gwe tra effeithiol, o safon, lawrlwythwch y fersiwn ddiweddaraf yma.

Os nad oes gan eich cyfrifiadur personol Adobe Flash Player, gallwch weld fersiwn pdf o'r map yma.


Lansio'r map

Image depicting CCSF How Swansea Will Look

© 2010 Canol y Ddinas