Mae Canol ein Dinas ar drothwy newid enfawr o ran datblygu cyfl eusterau, cyfl eoedd busnes, amwynder amgylcheddol ac ansawdd bywyd.
Mae Dinas a Sir Abertawe a Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio â Phartneriaeth Canol y Ddinas i gyflwyno 'Gweledigaeth ar gyfer Abertawe'.
Ein gweledigaeth yw gwneud Abertawe sy'n fywiog, gyffrous, ddeniadol, gynaliadwy, yn Ddinas y Glannau â Chanol diwylliedig Ewropeaidd a fydd yn denu busnesau ac ymwelwyr, yn gyrru'r economi ac yn gwella ansawdd bywyd trigolion Abertawe a De Orllewin Cymru.
Rydym wedi gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid i ddatblygu'r Fframwaith hon sy'n dangos ein huchelgeisiau ar gyfer Abertawe yn ystod y 15 – 20 mlynedd nesaf.
Nid gweledigaeth ffwrdd â hi mo hon. Ddim o gwbl. Mae wedi'i seilio'n ddilys ar y dystiolaeth gadarn a gafwyd o astudiaethau technegol gan tîm uchel eu parch o benseiri ac ymgynghorwyr eiddo a pheirianneg profiadol.
Felly er bod ein gweledigaeth yn uchelgeisiol mi wyddom y gallwn ei gwireddu.
Ac mae angen cefnogaeth pawb i wneud hynny, o ddatblygwyr a buddsoddwyr i drigolion a busnesau.
Mae'r Fframwaith yn cydweddu â Chynllun Gofodol Cymru, gyda chynaladwyedd yn graidd iddo - felly bydd yr holl newidiadau arfaethedig yn parhau.
Mae Canol Dinas Abertawe eisioes yn datblygu:
Gwelliannau gwerth £4 miliwn o gwmpas Stryd Rhydychen – palmentydd, goleuadau a chelfi stryd newydd
Ailddatblygu'r Glannau - twr 29 llawr yng Nghei Meridian a phum twr arall 10 llawr o'i gwmpas
Ailddatblygu Canolfan Hamdden Abertawe
Cludiant cyhoeddus gwell – cwblheir cam 1 y Metro yn 2008
Datblygiad manwerthu Ffordd y Dywysoges – cam cyntaf cynllun adfywio manwerthu gwerth £30m
Bydd pawb yn elwa o Abertawe'r dyfodol. Dim ond y dechrau yw hyn.
Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf ar Awst 16 2010