Diwrnod o Hwyl yr Ŵyl!
I ddathlu’r ffaith bod Marchnad Abertawe bellach ar agor bob dydd tan y Nadolig, a hefyd lansiad Marchnad y Nadolig Abertawe, rydym yn cydweithio â’r Farchnad Abertawe i gyflwyno diwrnod llawn hwyl yr ŵyl yng nghanol y ddinas.
Bydd adloniant byw, gwesteion arbennig a pherfformiadau stryd yn cael eu cynnal ym Marchnad Abertawe ac ar Stryd Rhydychen – mae’r amserlen lawn i’w gweld isod:
Marchnad y Nadolig Abertawe
11:15am-11:45am Bouncing Elves – Ydych chi ar y rhestr ddrwg neu dda? Gofynnwch i’r Bouncing Elves, a fydd yn hercian o amgylch Marchnad y Nadolig Abertawe!
12:00pm-1:00pm The Spinettes – Bydd The Spinettes sy’n perfformio yn y West End yn dod ag ychydig o hud ychwanegol i Farchnad y Nadolig pan fyddant yn perfformio yn ein Caban y Carolwyr!
12:00pm-12:30pm Lairy Fairy & Pud – Bydd y dylwythen Lairy Fairy ddireidus a’i Phwdin Nadolig yn lledaenu hud yr ŵyl o gwmpas Marchnad y Nadolig Abertawe
1:00pm-3:00pm Mickey a Minnie Mouse – Mae Mickey a Minnie yn dwlu ar y Nadolig, a byddant yn ymweld â Marchnad y Nadolig Abertawe!
The Grinch a’r Coblyn ar y Silff – Mae’r Grinch blin a’r Coblyn ar y Silff drygionus yn dod i Farchnad y Nadolig Abertawe i achosi helynt!
1:15pm-2:00pm Coeden Nadolig Hudol – Dydych chi ddim am golli’r Goeden Nadolig hon sy’n cerdded!
1:30pm-2:00pm Baggy Kringle – Bydd Côr Dickensaidd yn canu carolau Nadolig poblogaidd yng Caban y Carolwyr.
2:15pm-2:45pm Bouncing Elves – Ydych chi ar y rhestr ddrwg neu dda? Gofynnwch i’r Bouncing Elves, a fydd yn hercian o amgylch Marchnad y Nadolig Abertawe!
2:45pm-3:15pm Lairy Fairy & Pud – Bydd y dylwythen Lairy Fairy ddireidus a’i Phwdin Nadolig yn lledaenu hud yr ŵyl o gwmpas Marchnad y Nadolig Abertawe!
Marchnad Abertawe
10:30am-11:00am Lairy Fairy & Pud – Bydd y dylwythen Lairy Fairy ddireidus a’i Phwdin Nadolig yn lledaenu hud yr ŵyl o gwmpas Marchnad Abertawe!
12:00pm-12:45pm Coeden Nadolig Hudol – Dydych chi ddim am golli’r Goeden Nadolig hon sy’n cerdded!
12:00pm-2:00pm Gweithdy Cardiau Nadolig – Dewch i greu cerdyn Nadolig arbennig iawn yng Ngardd y Farchnad!
1:15pm-1:45pm Bouncing Elves – Ydych chi ar y rhestr ddrwg neu dda? Gofynnwch i’r Bouncing Elves, a fydd yn hercian o amgylch Marchnad Abertawe!
1:30pm-2:30pm The Spinettes – Yn syth o’r West End yn Llundain, bydd The Spinettes yn dod â hwyl yr ŵyl i Ardd y Farchnad!
1:00pm-3:00pm Mickey a Minnie Mouse – Mae Mickey a Minnie yn dwlu ar y Nadolig, a byddant yn ymweld â Marchnad Abertawe!
The Grinch a’r Coblyn ar y Silff – Mae’r Grinch blin a’r Coblyn ar y Silff drygionus yn dod i Farchnad Abertawe i achosi helynt!
2:30pm-3:00pm Baggy Kringle – Bydd Côr Dickensaidd yn canu carolau Nadolig poblogaidd yng Ngardd y Farchnad!
This post is also available in: English