Croeso i Ganol Dinas Abertawe

P’un ai eich bod yn chwilio am ddiwrnod gwych i’r teulu, lle i siopa am frandiau enwog neu eitemau unigryw na cheir yn unman arall, neu os hoffech fwynhau’r profiad o fwyta allan yn y dewis gwych o fwytai neu fariau sydd ar gynnig - mae gan Abertawe'r cyfan. Mae Abertawe’n gyrchfan gwych i ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd, gan elwa ar leoliad arfordirol gwych. Ar garreg eich drws, ceir Marina Abertawe ar gyfer y rhai sy’n hoffi pethau morwrol a’r promenâd sy’n edrych dros y bae sy’n estyn am filltiroedd.

This post is also available in: English