
O siopau coffi creadigol i barlyrau tatŵ retro, o fwtigau ffasiynol i siopau llyfrau comig arbenigol, a phopeth arall yn y canol, mae dewis amrywiol o fanwerthwyr annibynnol arbenigol sy’n cynnig cynhyrchion pwrpasol a chynhyrchion cynllunydd, yn ogystal â gwasanaethau premiwm, yng nghanol dinas Abertawe.
Mae nifer o’r busnesau bach hyn wedi’u lleoli yn ardal Annibynnol canol y ddinas, sy’n cwmpasu Stryd Plymouth, Stryd Nelson, Stryd Singleton, Stryd Dillwyn a Stryd Rhydychen isaf, yn ogystal ag Arcêd Picton a Shoppers Walk.

Mae hefyd amrywiaeth o fusnesau bach ar y Stryd Fawr, Stryd y Castell, Stryd y Coleg, Ffordd y Brenin a Stryd Craddock yn ogystal ag ym Marchnad Abertawe.
Mae’r masnachwyr annibynnol hyn yn ymfalchïo mewn rhoi gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn ogystal â chynnig arbenigedd heb ei ail. Pwy fyddai am siopa yn unrhyw le arall!?

This post is also available in: English