• Teithio a Pharcio
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
  • Digwyddiadau
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
  • Menu
  • Skip to primary navigation
  • Skip to secondary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to primary sidebar

Swansea City Centre logo

The Waterfront City Centre

Header Right

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • Hafan
  • Teithio a Pharcio
    • Gorsaf Bysus
    • Gorsaf Drenau
  • Archwiliwch Ganol y Ddinas
    • Siopa
      • Stryd Fawr
      • Ardal Siopau Annibynnol
      • Stryd Rhydychen
      • Marchnad Abertawe (allanol)
      • The Quadrant (allanol)
    • Pethau i wneud
      • Atyniadau
      • Amgueddfeydd/Orielau
        • Celf Gyhoeddus
      • Llwybrau
      • Bwyta ac Yfed
        • Caffis
        • Bywyd Nos
          • Faner Borffor
        • Tafarndai
        • Bwyta allan
    • Lleoedd i Aros
  • Digwyddiadau
    • Marchnad Nadolig Abertawe
      • Caban Y Carolwyr
  • Buddsoddi a Busnes
  • Rydym yma i’ch helpu
    • Gwasanaeth Rheoli Canol y Ddinas
    • City Centre Rangers
    • Map canol y ddinas
    • Ffeithiau a Ffigurau
    • Wi-Fi a gwefru ffonau am ddim
    • Man storio bagiau (allanol)
    • Eiddo Coll
    • Astudio
    • Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe
    • Croseo Bae Abertawe (allanol)
  • Cymraeg
    • English
You are here: Home / Archwiliwch Ganol y Ddinas

Archwiliwch Ganol y Ddinas

Ddydd a nos, mae rhywbeth i bawb yng nghanol dinas Abertawe!

Dewch i siopa am y tueddiadau diweddaraf, cael eich gwefreiddio yn yr LC, darganfod mwy yn yr amgueddfeydd a’r orielau celf, bwyta ac yfed yn y caffis a’r bwytai gwych, cael eich diddanu yn y sinemâu a’r theatrau a dawnsio drwy’r nos!

Atyniadau – Mae atyniadau gwych yng nghanol y ddinas, o sinemâu a theatrau i goedwig law dan do, Plantasia! Yn y marina, dewch chi o hyd i deithiau cychod cyffrous i benrhyn Gŵyr yn ogystal â chyfleoedd i ymlacio at fordeithiau ar hyd afon Tawe, neu gael hwyl yn yr LC, sy’n cynnwys parc dŵr dan do cyffrous gyda sleidiau, board rider a pheiriant tonnau, yn ogystal â dringo creigiau a lle chwarae meddal. Mae yna hefyd lasertag cyffrous yn Laserzone a dwy ale fowlio, bowlio deg pin, ynghyd ag arcêd gemau, a Superbowl gyda Ninja Tag a Crazy Club ychwanegol!

Bwyta allan – Mae Abertawe wedi ennill enw da fel hafan bwyd, gyda llawer ar gael gan werthwyr bwyd stryd o amgylch y ddinas yn ogystal ag ym Marchnad Abertawe, ac o gaffis, bariau, bwytai a bistros mae dewis gwych o flasau lleol a rhyngwladol at bob chwaeth.

Amgueddfeydd ac Orielau – Dewch i ddarganfod pethau newydd yn yr amrywiaeth o amgueddfeydd ac orielau cyffrous sy’n addas ar gyfer pob oed a diddordeb. Mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gyfleusterau ac arddangosfeydd hynod fodern ac mae Amgueddfa Abertawe, sy’n draddodiadol ac yn hanesyddol, yn arteffact ynddi’i hun! Ar gyfer y rheiny â diddordeb mewn celf, mae dewis eang o orielau yn y ddinas sy’n sicr o’ch diddanu am oriau a bydd y rhai sy’n dwlu ar farddoniaeth wrth eu boddau â Chanolfan Dylan Thomas, sy’n canolbwyntio’n unswydd ar ei waith.

Gyda’r hwyr – Er bod yr haul yn machlud yn Abertawe, nid yw’r hwyl yn dod i ben! Mae’r ddinas yn dod yn fyw gyda’r hwyr, gyda bwytai, bariau a chlybiau sy’n enwog yn genedlaethol yn cadw hwyl y parti nes yr oriau mân.

Digwyddiadau – Trwy gydol y flwyddyn, mae’r ddinas yn trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous.

This post is also available in: English

Primary Sidebar

Map canol y ddinas

  • Hafan
  • Preifatrwydd a Cwcis

Return to top of page

Copyright © 2023 · Swansea City Centre · Cookie Policy

  • Cymraeg
  • English